Pembrokeshire Care Society (PCS/PATH) Cymdeithas Gofal Sir Benfro

Gwasanaethau

Intro
Home
Services
Advice Centres
Statistics
Contact Details
Latest News
Activities Report
Links
Cartref
Gwasanaethau
Canolfannau Cyngor
Ystadegau
Manylion Cyswllt
Newyddion Diweddar
Adroddiad Gweithgareddau
Cysylltiadau

Illustration - On the phone

english

CYNGOR, CYMORTH A GWASANAETH ADFOCATIAETH
Mae’r Gymdeithas yn darparu cyngor, cymorth a gwasanaeth adfocatiaeth i unrhyw un sydd yn 16 oed neu fwy. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth gyda llety, budd-dal lles ac unrhyw broblemau eraill sy’n gysylltiedig â bod yn ddigartref. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael trwy wneud apwyntiad yn ein prif swyddfa yn Hwlffordd (yn ystod y dydd) a hefyd yn y lleoliadau canlynol :-

Doc Penfro, Aberdaugleddau, Abergwaun a Dinbych-y-pysgod

I wneud apwyntiad neu os am cyngor ffoniwch y ffon rhad ar 0800 783 5001.

pen y tudalen

Simple house

CYNLLUN TYSTYSGRIF BOND GWARANTEDIG
Mae’r cynllun hwn yn galluogi person(au) i gael mynediad i lety yn y sector rhentu preifat trwy ddarparu bond gwarantedig  ‘difrod yn unig’ hyd at uchafswm lefel y cytunwyd arno. Rhaid i bob ymgeisydd gael ei gyfweld a’i asesu cyn cael ei ystyried yn addas ar gyfer bond.  Mae’r cynlluniau bond canlynol ar gael:-
 
Cynllun Tystysgrif Bond Oedolyn
Cynllun Tystysgrif Bond Cyfnod Prawf
Cynllun Tystysgrif Bond U18
Cynllun Tystysgrif Bond Estynedig
Open Gate

PECYN AIL SETLO
Yn rhan o'r Cynlluniau Tystysgrif Bond Oedolyn, Cyfnod Prawf ac U18 mae pecyn ail setlo, fydd gobeithio o gymorth i'r tenant gynnal ei denantiaeth. Cyflawnir hyn drwy gymorth budd-dal lles, buudd-dal tai a chyngor ynglyn ag edrych ar ol cyllid a 'rheloi'r cartref'.

Hand-held calculator

CYNGOR AR DDYLED

Yr ychwanegiad diweddaraf i’n rhestr gynhwysfawr o wasanaethau yw cyngor ar ddyled. Bellach gallwn gynnig asesiad ariannol cyn sicrhau llety gyda’r nod o ystyried tenantiaeth fforddiadwy a rheolaeth o’ch arian. Rydym hefyd gallu rhoi cyngor a chynorthwyo ar gyngor ar ddyled. Yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol, gallwn yn aml gynnig cymorth ariannol pellach i gynorthwyo gyda chael hyd neu gynnal llety.

pen y tudalen

Yellow house

CYMORTH MEWN ARGYFWNG
Mae’r Gymdeithas nid yn unig yn helpu’r rhai sy’n ddigartref ond hefyd y rhai sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref. Mae Cymorth mewn Argyfwng yn werthfawr o ran ei fod yn gallu bod o gymorth i berson pan fo’i lety dan fygythiad (am ba bynnag rheswm e.e. cael eich troi allan o’r cartref yn anghyfreithlon, anghydfod tenant/ landlord, ôl-ddyledion) fe allwn ni roi cyngor cyfreithiol parod a gweithredu ar eich rhan gyda’r unigolyn/sefydliad perthnasol yn y gobaith o ddatrys y broblem ac osgoi bod yn ddigartref
.

Helping hands

CYNLLUN CEFNOGAETH

CYNLLUNIAU CEFNOGI POBL

Gwasanaeth Cefnogi Cyffredinol (GCC)

Grant Cefnogi Pobl Cynulliad Cymru sydd yn ariannu’r cynllun hwn a weinyddir gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth lefel isel ar hyd pob daliadaeth ar gyfer grwpiau cleientiaid. Mae’r gwasanaeth yn cyfeirio at bob rhan o Gefnogaeth sy’n ymwneud â Thai gyda’r nod o gynnal gallu unigolyn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Gellir darparu cymorth fel y bo’r angen (yn y cartref) neu gall fod wedi ei leoli yn y feddygfa. Gall cyfeiriadau ddod o unrhyw ffynhonnell.

cliciwch yma i gael ffurflen cyfeiriadau GSS

CYNLLUN CEFNOGAETH - PATH

Cynllun wedi’i ariannu gan Grant Refeniw Cefnogi Pobl Cynulliad Cymru yw gwasanaeth cefnogi hir dymor Cymdeithas Gofal Sir Benfro. Nod y gwasanaeth yma yw galluogi’r derbynnydd i fyw’n annibynnol ac yn becyn ailgyfanheddiad ar gyfer y tymor hir, yn wahanol i’r GCC. Darperir y gefnogaeth yng nghartref y cwsmer. Gwneir cyfeiriadau yn uniongyrchol o Gymdeithas Gofal Sir Benfro. 

pen y tudalen

Cell Phone, Opening & Closing

FFÔN RHAD
Mae hwn yn galluogi unrhyw berson(au) digartref (neu sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref) i gael cyngor a chymorth parod neu i drefnu apwyntiad yn y brif swyddfa neu unrhyw un o’n canolfannau.  Ffôn rhad 0800 783 5001.

pen y tudalen

bus.jpg

CYNLLUN GWARANT TEITHIO
Mae’r cynllun hwn yn galluogi person(au) digartref neu sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref i gael mynediad syth i gyfweliad gyda Gweithiwr Cynghori y Gymdeithas yn y brif swyddfa.  Mae’r gwarantau hyn ar gael ym mhob ardal lle darperir gwasanaeth.  Mae gwarantau teithio hyn hefyd ar gael i unrhyw berson(au) digartref neu sydd dan fygythiad o fod yn ddigartref i gael mynediad i unrhyw apwyntiad perthnasol arall  y byddai’n amhosibl ei gael oni bai am y gwarantau
. Trwy’r cynllun hwn mae modd teithio drwy Sir Benfro gyfan  gyda bysys lleol.

pen y tudalen

Illustration: Grocery shopping

PECYNNAU BYW
Pan fo’n addas fe fyddwn ni’n darparu pecynnau byw i rai sy’n cysgu allan neu i denantiaid gyda dim neu ychydig o adnoddau.  Mae’r pecynnau hyn yn cynnwys :- Pecyn Bwyd / Taleb, Pecyn Hylendid, Pecyn Cysgu, Pecyn Coginio, Pecyn Llestri.  Mae’r uchod yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael a’r rhoddion a dderbyniwyd.

pen y tudalen

Red loveseat

CYNLLUN GRANT DODREFN
Mae’r grant hwn yn cael ei ddefnyddio gan gleientiaid sy’n symud i mewn i eiddo heb ei ddodrefnu ac sy’n methu cael cymorth gan unrhyw ffynhonnell arall. Yn anffodus oherwydd cyfyngiadau ariannol, ni allwn ond roi cymorth i’n cleientiaid gydag eitemau a dodrefn sylfaenol tuag at safon byw sylfaenol e.e. popty, gwely a seddi.

pen y tudalen

Business handshake

PARTNERIAETHAU
Rydyn ni’n falch bod ein harbenigedd ym maes y digartref wedi cael ei gydnabod a bod partneriaethau llwyddiannus wedi’u llunio gyda’r canlynol :-
 
Gwasanaeth Prawf
Awdurdi Lleol - Tai
Awdurdi Lleol - Gwasanaethau Cymdeithasol
Awdurdi Lleol - Tim Iechyd Meddwl
Cymdeithas Gofal Ceredigion
Bwrdd Bond Caerfyrddin

Boardroom meeting

GRWPIAU CYNGOR LANDLORDIAID
Mae’r grŵp hwn yn agored i bob landlord er mwyn darparu fforwm i drafod yr holl faterion ynglŷn â’r sector tai sy’n berthnasol. Trefnir y cyfarfodydd hyn drwy gydol y flwyddyn. Gwahoddir cynrychiolwyr o sefydliadau Statudol ac unrhyw gyrff perthnasol eraill i’r cyfarfodydd. Fe all landlordiaid gysylltu â Chymdeithas Gofal  Sir Benfro i gael cyngor am unrhyw faterion tai perthnasol
.

pen y tudalen

Spiral, Spinning Horizontal Line

pcspathqmwag.jpg