|
Crynodeb
Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad
blaenllaw, yn barod ac yn gallu addasu i gwrdd ag anghenion ein defnyddwyr. Mae Cymdeithas Gofal Sir Benfro yn cynorthwyo’r
digartref (drwy arian o wahanol ffynonellau), drwy adnabod ac amlygu’r materion ac yna cynllunio, datblygu a chynnig
gwasanaethau i’w lliniaru.
Mae digartrefedd yn digwydd oherwydd nifer o resymau ac nid oes neb na all hyn
ddigwydd iddynt. Mae pobl wedi cyflwyno eu hunain fel rhai heb gartref drwy dor perthynas, (teulu, partner, ffrind neu berchennog
tŷ) dianc o gamdriniaeth a thrais, gorlenwi o fewn y cartref, colli swydd methu fforddio talu rhent, newid mewn amgylchiadau
sydd wedi golygu adfeddiant cartref, gadael gofal, gadael carchar a thor iechyd meddwl - gall y rhestr fynd ymlaen ac ymlaen.
Mae digartrefedd yn broblem amlochrog sydd â chysylltiadau gyda phroblemau cymdeithasol neu’n ymwneud ag iechyd. O brofiad
rydym wedi darganfod na ellir ymdrin â’r materion eraill heb fod llety diogel a fforddiadwy gan bobl.


|